John OwenROBERTSROBERTS - John Owen, December 7, 2020. Caergybi, gynt o Moelfre . Hunodd yn dawel yn 92 mlwydd oed. Gŵr cariadus i Margaret ers 68 mlynedd, tad gofalus a thyner i Medwyn ac Alun a thad yng nghyfraith annwyl i Meinir a Nia; Taid balch i Helen, Richard, Huw, Mari a Gwenno a hen daid caredig i Matthew, Violet, Cameron, Toby, Max, Emily, Efan a Henry. Brawd hoffus i Megan a'r diweddar Glenys, Gwilym, Nanw a Tecwyn a chefnder agos i Jane, Margaret ac Annela. Oherwydd cyfyngiadau Cofid 19, cynhelir gwasanaeth i'r teulu agosaf yn unig, wrth lan y bedd ym mynwent Eglwys Llanallgo ar fore Gwener, Rhagfyr 11eg, am hanner awr wedi deg. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion at 'Hosbis yn y Cartref' er cof annwyl am John, drwy law'r ymgymerwr - Jones Brothers, Lon Pant y Cudyn, Benllech, Ynys Mon, LL74 8TP.
Keep me informed of updates